EIN GWEINIDOG

Y PARCHEDIG DDOCTOR ROSA HUNT

Ces i fy ngeni ym Malta ychydig o flynyddoedd ar ôl annibyniaeth yr ynys. Gwlad grefyddol ac amlieithog oedd Malta ar y pryd, ac felly ers fy mhlentyndod roedd Duw wedi bod yn fy mharatoi i'r dyfodol. Es i astudio fy lefelau A yn Lloegr, mewn ysgol breswyl, oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol y wlad ar y pryd, ac yna ces i brofiad ysgubol o gariad Duw yng nghapel yr ysgol. Es i Gaergrawnt i astudio gwyddoniaeth, ac yna cwrddais i a Francis, cyn hyfforddi i fod yn athrawes mathemateg. Aethon ni i fyw yn Ffrainc am bum mlynedd, ac yna cafodd dau o'n meibion eu geni - Josh a Chris. Ar ôl i Francis orffen ei ddoethuriaeth yn Ffrainc symudon ni yn ôl i Loegr ble cafodd dau fab arall eu geni - Tim a Dan.

Yn 2006 daeth newid enfawr i'n teulu - cafodd Francis swydd newydd gyda Phrifysgol Morgannwg, a symudon ni i Gymru! Aethon ni ati i ddysgu'r iaith, a dechreuais i hyfforddi fel gweinidog yng Ngholeg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd. Ar ôl cyfnodau hapus iawn fel gweinidog Bethel, Penyrheol a Salem, Tonteg, yn ogystal â gwneud doethuriaeth mewn diwinyddiaeth a gweithio i Goleg y Bedyddwyr, ces i'r fraint aruthrol o alwad i fod yn weinidog y Tabernacl o fis Medi 2022. Bron yn syth ar ôl hynny, digwyddodd rhywbeth a newidiodd fywyd ein teulu am byth - bu farw ein hannwyl mab Chris ar ôl cyfnod o salwch meddwl difrifol. Ers hynny rydyn ni'n gwerthfawrogi ein gilydd fel teulu yn fwy nag erioed - ac yn gwerthfawrogi cariad teulu Tab.

Yn ystod fy mywyd, dwi wedi dod i nabod Duw fel Duw o gariad diamod, trugaredd, maddeuant a llawenydd. Dwi wedi trio adlewyrchu hyn yn yr eglwysi ble dwi wedi cael y fraint o weinidogaethu gan annog pawb i ddod i adnabod y Duw caredig yma trwy weddi, astudio'r Beibl a gwasanaethu pobl mewn angen. Dewch i'n gweld ni yn y Tabernacl - bydd croeso cynnes iawn i chi.