Mae’r adeilad y Tabernacl yn enghraifft ardderchog o bensaerniaeth Oes Fictoria, a’r bwriad gwreiddiol oedd ychwanegu galeri arall yng nghefn y capel. Gan fod aelodaeth yr eglwys wedi gostwng erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn dilyn marwolaeth y gweinidog Charles Davies, penderfynwyd gosod y ffenestri lliw yn y blaen, rhywbeth dieithr i gapel anghydffurfiol fel y Tabernacl, er cof amdano.
Gwelwch hefyd y ffenestri ar yr ochrau gyda’r grasusau yn cael eu henwi. Yn 1913 gosodwyd yr organ fawr hon yn ei lle, a bu defnydd helaeth arni ar draws y degawdau. Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau arwyddocaol yma, gan gynnwys yr ail ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’, y ‘Songs of Praise’ cyntaf, gwasanaeth cyflwyno’r Beibl Cymraeg newydd yn 1988, heb anghofio Oedfa’r Milflwydd yn 2000. Bydd llawer yn cofio’r cyfarfodydd o ‘Ganiadaeth y Cysegr’ bob nos Sul ar hyd yr Ail Ryfel Byd er mwyn calonogi aelodau’r Lluoedd Arfog, a chodi arian i dalu am barseli bwyd i’w hanfon at y milwyr yn y frwydr.
Eglwys gyda’r Bedyddwyr Cymraeg yw’r Tabernacl a sefydlwyd hi yn 1813 pan ddaeth nifer o bobl ynghyd yn nhafarn y ‘Star and Garter’ sydd heb fod yn bell o’r castell.
Eglwys gyda’r Bedyddwyr Cymraeg yw’r Tabernacl a sefydlwyd hi yn 1813 pan ddaeth nifer o bobl ynghyd yn nhafarn y ‘Star and Garter’ sydd heb fod yn bell o’r castell. Roedd nifer o’r cyfeillion hyn yn dod o ardaloedd eraill ac yn arbennig o ardal Llanbedr y fro, sydd tua 10 milltir i’r gogledd o Gaerdydd. Erbyn 1821 roedd dros gant o aelodau, sef digon i adeiladu y capel cyntaf heb fod yn bell o’r adeilad presennol. Gwelodd yr eglwys gynnydd sylweddol ar draws yr hanner can mlynedd nesaf, a chynlluniwyd adeiladu’r capel presennol sy’n eistedd 950 o bobl. Yn ddiddorol, roedd Caerdydd yn gweld cynnydd helaeth hefyd yn ei phoblogaeth, a sefydlwyd eglwysi eraill yn y maesdrefi newydd. Bellach, y Tabernacl yw’r unig eglwys Fedyddiedig Gymraeg yn y ddinas, gan i’r eglwysi eraill droi i ddefnyddio’r Saesneg yn eu haddoliad. Cymraeg fu unig iaith addoliad yr eglwys, er bod croeso cynnes i bawb sydd am ddysgu’r iaith.
Bu’r eglwys yn ffodus o gael gweinidogion yn ddi-dor ar hyd y blynyddoedd, a’r gweinidog presennol, sef y Parchg Ddr Rosa Hunt, yw’r unfed weinidog ar ddeg yn yr eglwys. Mae cerrig coffa ar y muriau yn nodi enwau’r cyn-weinidogion sef y Parchedigion Griffith Davies, Robert Pritchard, Christmas Evans, David Jones, Nathaniel Thomas, Charles Davies, John Williams Hughes, Myrddin Davies, Raymond Williams a Denzil John.
Er ein bod yn Eglwys Fedyddiedig, mae gennym gynrychiolaeth o sawl traddodiad yn ein plith ac fel aelodau’r eglwysi eraill yng Nghaerdydd a’r cylch, rŷn ni’n dod o bob rhan o Gymru a phob rhan o Gaerdydd hefyd. Pan ddewch i un o’n cyfarfodydd, felly, byddwch yn siŵr o gwrdd â rhywun a fagwyd yn eich bro, a buan iawn yr ymgartrefwch yn ein plith.