12. Miriam ( Numeri 12 )
Y Cefndir
Miriam oedd yr hynaf o dri phlentyn Amram a Iochefed; Aaron oedd yr ail, a Moses oedd yr ifancaf. Er na chaiff ei henwi yn Exodus 2:4, Miriam oedd yr un a roddodd y baban Moses mewn cawell yn y brwyn, a chadw llygad arno rhag ofn i rywbeth ddigwydd iddo.
Fe’i disgrifir fel ‘proffwydes’, ac wedi i’r bobl ddathlu eu buddugoliaeth dros y Pharo wrth y Môr Coch, hi oedd yr un arweiniodd ddawns ddathlu’r merched (Exodus 15:20-21).
Fodd bynnag, yn Numeri 12, mae stori am Miriam ac Aaron yn cwyno am y wraig o wlad Cwsh (Ethiopia, mae’n debyg) a briododd Moses, ac yn holi ai dim ond drwy Moses yr oedd Duw yn siarad, fel pe bai’r briodas wedi bwrw amheuaeth ar allu eu brawd i arwain yr Hebreaid a phroffwydo. Yr oedd Duw yn anfodlon am eu beirniadaeth o Moses, a galwodd Miriam a’i dau frawd ynghyd i’r Tabernacl yn yr anialwch ac ymddangosodd o’u blaen mewn colofn o niwl. Clywodd Miriam ac Aaron yr Arglwydd Dduw yn pwysleisio bod Moses yn was arbennig iddo, a’i fod yn ymddiried yn llwyr ynddo. Y gwahaniaeth rhyngddynt hwy a’r brawd iau oedd, er ei fod Ef yn siarad â phroffwydi cyffredin (fel hwy) drwy weledigaeth a breuddwyd:
‘Ond nid felly y mae gyda’m gwas Moses;
ef yn unig o’m holl dŷ sy’n ffyddlon.
Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,
yn eglur ac nid mewn posau;
caiff ef weld ffurf yr Arglwydd.
Pam, felly, nad oedd arnoch ofn
cwyno yn erbyn fy ngwas Moses?’ (Numeri 12.7-8)
Cododd y niwl, ac roedd croen Miriam wedi troi’n wyn. Roedd hi’n wahanglwyfus; ond dihangodd Aaron rhag yr aflwydd. Byddai’n rhaid i Miriam adael gwersyll yr Hebreaid, ac ymneilltuo i’r anialwch. Dyna oedd y rheol, er mwyn sicrhau na fyddai neb arall yn cael eu heintio. Galwodd Aaron ar Moses i eiriol dros ei chwaer. Gwnaeth yntau, ac fel canlyniad i’w eiriolaeth caewyd Miriam allan o’r gwersyll, a bu yn yr anialwch wrthi hi ei hunan dim ond am wythnos.
Er popeth a ddigwyddodd, ni chollodd Miriam barch nac edmygedd y bobl, a phrawf o hynny yw na theithiodd y genedl ymlaen tra ei bod wedi ei chau allan o’r gwersyll, fel oedd yr arfer. Ond dychwelodd ymhen saith niwrnod â’i chroen yn lân eto. Dyna pryd symudodd yr Israeliaid ymlaen tua Gwlad yr Addewid.
Myfyrdod
Mae geiriau’r Arglwydd yn dangos mai eu hunan-dyb, a’u haerllugrwydd wrth gymharu eu hunain â Moses a’i tramgwyddodd.
Ni roes yr ateb amlwg hwn ddiwedd i’r cwestiynau am yr hanes. Un oedd, ‘Beth yw arwyddocâd y briodas â’r wraig o Ethiopia?’ Mae’n debyg y byddem ni yn y dyddiau hyn yn meddwl mai hilyddiaeth oedd y broblem: merch groenddu oedd gwraig Moses yn ôl pob tebyg! Ond er bod gelyniaeth gyson rhwng y gwledydd gwahanol yn yr Hen Destament ar sail cenedlaetholdeb, nid oes unrhyw awgrym ynddo o erlid ar sail lliw. Yn wir, mae’n anodd dod o hyd i unrhyw gyfeiriad at liw croen. Merch ddu fyddai brenhines Seba a ymwelodd â Solomon, ond nid oes unrhyw gyfeiriad at ei lliw. Prin yw’r cyfeiriad at liw croen yn y Beibl. Dywed y ferch wrth y bachgen yng ngherdd serch Caniad Solomon, ‘Er fy mod yn dywyll fy lliw ... yr wyf yn brydferth’ (1.5). Yr unig gyfeiriad cyson at liw croen yw bod y gwahanglwyf yn ei droi yn wyn.
Mae eraill yn gweld arwyddocâd yn y ffaith mai dim ond Miriam a gafodd ei chosbi, er bod Aaron mor euog â hi, gan fod y ddau wedi beirniadu Moses. Mae’n rhaid mai rhagfarn yn erbyn merched yw’r rheswm, oherwydd condemnir Aaron hefyd, ond ni chafodd ef ei gosbi. Daeth Miriam yn berson poblogaidd ymhlith ffeministiaid Iddewig oherwydd hyn. Ond, yn ôl arbenigwyr ar Iddewiaeth, mae’r ffaith mai Miriam sy’n cael ei henwi gyntaf yn dangos mai hi oedd wedi ysgogi’r agwedd feirniadol o Moses, a hi, felly, oedd yn gyfrifol am y cyfan. Roedd llid yr Arglwydd wedi ei ennyn yn eu herbyn nhw - y ddau ohonynt (Numeri 12:9) er mai Miriam gafodd ei chosbi. Nid oes modd gwadu mai lle eilradd oedd i ferched yn yr hen fyd, ond nid oes rhagfarn yn erbyn merched yn y Beibl, er bod llawer yn gweld hynny yn yr Hen Destament - a’r Newydd.
Er iddi hi gael ei halltudio o’r gwersyll am wythnos - tynged gyffredin i droseddwyr Israel yn yr anialwch oedd hynny - ni symudodd y bobl ymlaen tan iddi hi ddychwelyd i’w plith. Roedd hynny’n anarferol, ac yn arwydd o barch mawr tuag ati. Nid arferiad y bobl oedd aros am neb. Rhan o’r gosb oedd bod y troseddwr yn gorfod gofalu amdano ef neu hi ei hunan yn yr anialwch tan fyddai’n gallu dal i fyny ac ailymuno â’r gweddill. Prawf arall o’r edmygrdd ohoni a’i phwysigrwydd oedd cofnodi ei marwolaeth yn Cadesh (Numeri 20:1). Ni eglurir y cysylltiad, ond dywed Numeri 20:2 nad oedd dŵr yn Cadesh wedi marwolaeth Miriam.
Efallai mai un o wersi pwysig hanes Miriam yw ei fod yn ein hatgoffa ni o beryglon beirniadu gweithredoedd y gorffennol wrth safonau’r presennol, gan gredu bod ein safonau ni yn rhagori. ‘Yn y gorffennol roedd y bobl yn farbaraidd. a’u gweithredoedd yn fileinig.’ Ond pa un ohonom fentrai ddweud heddiw ein bod yn byw mewn byd mwy gwâr a moesgar, pan glywn am bob math o erchyllterau sy’n digwydd ar draws ein byd, gan gynnwys Prydain a Chymru?
Gwelais ddyfyniad am ragfarn sy’n dweud, ‘Prejudice squints when it looks, and lies when it speaks’. Onid dyna’r byd rŷm ni yn byw ynddo; byd y mae’n rhaid inni ei herio yn enw’r Iesu?
Gweddi
Arglwydd Da, dysg inni barchu’n gilydd, heb feddwl bod y naill ohonom yn well na’r llall. A gad inni ddysgu gwersi’r gorffennol, er mwyn gwella’n bywyd ni ein hunain, a’r byd. Amen.