16. Balaam (Num. 22-24; Datg. 2.12-17)
Cefndir
Mae rhai yn ystyried stori Balaam yn stori ddigri sy’n cynnwys neges bwysig.
Yn ôl yr Iddewon, Cenedl-ddyn a dewin oedd Balaam - un o saith proffwyd cenhedlig a fabwysiadwyd ganddynt. Ond bellach fe’i hystyriant ef yn ddyn drwg.
Y stori yw fod yr Israeliaid bron â chyrraedd ffin Gwlad yr Addewid yn nyddiau Moses. Roedd yr Israeliaid eisoes wedi gorchfygu brenin yr Amoriaid a brenin Bashan ac roedd Barak, brenin Moab - y wlad a orweddai rhyngddynt a Canaan - yn eu hofni. Felly danfonodd Barak neges at Balaam yn gofyn iddo felltithio’r Israeliaid. Gwrthododd yntau am fod Duw mewn breuddwyd wedi gorchymyn iddo beidio gwneud peth ofynnodd Barak iddo wneud (Numeri 22.12).
Danfonodd Barak ei swyddogion pwysicaf at Balaam a chynnig iddo bob math o anrhegion pe bai’n dychwelyd at Barak gyda hwy. Roedd Balaam yn ddyn trachwantus ac yn ysu am fynd, a chaniatâodd Duw iddo fynd os teimlai fod yn rhaid iddo. Wrth gwrs, dewisodd fynd - ac roedd Duw yn ddig wrtho! (Numeri 22.22) Pan oedd Balaam ar ei asen yn teithio tua Moab danfonodd Duw angel i’w rwystro. Gwelai’r asen (ond nid Balaam) yr angel ac fe geisodd ei osgoi gan droi fel hyn ac fel arall. Yn gyntaf ‘trodd yr asen oddi ar y ffordd, ac aeth i mewn i gae. Yna trawodd Balaam hi er mwyn ei throi yn ôl i’r ffordd’ (22.23). Wedyn aeth yr asen ar lwybr yn arwain trwy’r gwinllannoedd gyda wal gerrig bob ochor i’r ffordd gul. Gwelodd yr asen yr angel eto a ‘gwthiodd yn erbyn y wal gan wasgu troed Balaam rhyngddi hi a’r wal’ (22.25). Gwylltiodd Balaan a bwrw’r asen; gorweddodd hithau â Balaam yn dal i’w tharo â’i ffon. Galluogodd yr Arglwydd yr asen i siarad a gofynnodd i Balaam beth oedd hi wedi gwneud i’w achosi i’w tharo deirgwaith. Ei ateb oedd iddi wneud ffŵl ohono gan ychwanegu: ‘Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw byddwn yn dy ladd’ (22.29). Ond yna fe welodd yntau’r angel.
Edifarhâodd Balaam ond caniatâodd yr angel iddo fynd ymlaen wedi iddo orchymyn y proffwyd na ddywedai ddim wrth Barak ond yr hyn a ddywedai’r Arglwydd wrtho i ddweud.
Wedi cyrraedd Moab, dyna wnaeth Balaam bum gwaith pan ofynnodd Barak iddo broffwydo yn erbyn Israel. Ond mae’n amlwg, er iddo wrthod melltithio Israel ei hunan iddo awgrymu fod ffordd i gael yr Iddewon i felltithio eu hunain gerbron Duw. Sut wnaeth e’ hynny?
Y Llyfr Datguddiad sy’n ateb y cwestiwn hwnnw gan awgrymu pam y mae’r Iddewon yn ystyried Balaam yn ddyn drwg, a hynny’n dangos fod bod stori Balaam yn un o’r chwedlau a adroddwyd gan yr Iddewon. Dywed Datguddiad i’r proffwyd ddysgu i Balac sut i ‘osod magl i blant Israel, a pheri iddynt fwyta pethau a aberthwyd i eilunod a godinebu’ (Datg 2:14). Wrth fwyta pethau nad oeddent yn kosher a phriodi â dynion a merched cenhedlig, byddai’r Iddewon yn torri gorchymyn Duw, ac fe sicrhaodd hynny y cawsant eu cosbi gan yr Arglwydd. Oherwydd i Balac lwyddo i’w temtio i wneud y pethau a waharddwyd (a’r Hen Destament sydd sy’n dweud i hynny ddigwydd) danfonodd Duw bla ar yr Israeliaid am iddynt anwybyddu ei orchmynion. ‘Daeth pla i ganol cynulliad yr Arglwydd’ (Num.31.16).
Myfyrdod
Mae Duw yn siarad â dynion mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r Epistol at yr Hebreaid yn dweud fod Duw wedi dod i gysylltiad â dynion ‘mewn llawer dull a llawer modd ... wrth y tadau yn y proffwydi’ (1:1). Un o’r ffyrdd mwyaf rhyfedd oedd trwy enau asyn! Clywodd Moses ei lais pan siaradodd Duw ag ef drwy weld perth yn llosgi heb ei difa; llaw yn sgrifennu ar y wal oedd ffordd Duw o gyfathrebu â Daniel; ffyrdd eraill oedd: clywed ei lais Samuel (yn clywed yn ei ystafell wely); Pedr (gwahoddiad o enau’r Arglwydd); yr eunych (yn darllen y proffwyd Eseia yn ei goets); Isaac (mewn breuddwyd). ‘...os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi’ (Luc 19:40). Mae Duw’n dal i siarad â phobl mewn llawer dull a modd heddiw, ond rhaid inni dalu sylw a gwrando’n astud i glywed beth a ddywed.
Mae’n siarad - y llef ddistaw fain - weithiau mewn pregeth; weithiau mewn profedigaeth a galar; weithiau mewn digwyddiad; weithiau wrth eistedd yn dawel. Ond a fyddwn ni’n gwrando? Ac all pobl wrando ar ddau lais gwahanol ar yr un pryd?
Mae stori (apocryffal, mae’n siwr) am Franklin Roosvelt yn gorfod cyfarch rhesi o bobl yn y Tŷ Gwyn, ac yn teimlo’n siwr nad oedd neb yn gwrando ar beth ddwedai wrthynt wrth eu cyfarch ar yr achlysur. Penderfynodd wneud arbrawf un diwrnod, ac wrth gyfarch pawb, dywedodd wrthyn’ nhw’n dawel, ‘Lleddais fy mam-yng-nghyraith y bore ’ma’. Ni fu unrhyw ymateb tan iddo gyfarch llysgennad Bolivia. Dywedodd yr un peth wrtho yntau, ac ymatebodd ef. ‘Mae’n rhaid bod gennych rheswm da, a’i bod yn haeddu hynny’, meddai!
Os digwyddant glywed llais Duw, mae pobol yn aml yn chwilio am ffyrdd i osgoi gwrando arno. W.C. Fields ddywedodd ei fod yn darllen ei Feibl i chwilio am loopholes! Mae Jona yn enghraifft o geisio osgoi Duw. Hefyd Paul. Ond ymostwng a gwrando bu’n rhaid iddynt wneud yn y diwedd. Canlyniad methiant Balaam i wrando oedd iddo ef gael ei ladd, a chospwyd yr Iddewon, hefyd.
Yn y Saesneg, yr union un llythrennau sydd yn y geiriau ‘listen’ a ‘silent’. Problem fawr Balaam oedd fod Duw, i bob pwrpas, yn ddistaw am nad oedd ef yn gwrando. Gall hynny ddigwydd i bob un ohonom.
Gweddi
Clyw, f’enaid tlawd, mae gennyt Dad
sy’n gweld dy fwriad gwan,
a Brawd yn eiriol yn y nef
cyn codi o’th lef i’r lan;
Clyw nad diystyr gan dy Dad
yw gwrando gwaedd dymuniad gwiw,
pe byddai d’enau yn rhy fud
i’w dwedyd ger bron Duw.
Llefara Di, hefyd, Arglwydd, canys y mae dy was yn clywed - ac yn gwrando. Amen.
(Edward Jones, C.Ff. 215)